Prifysgolion Cymru

 

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol sy’n gweithio mewn partneriaeth ac sy’n adeiladu rhwydweithiau cryf o arbenigedd yn lleol,yn genedlaethol a rhyngwladol.Mae ymchwil sy’n arwain y byd wedi cael ei gydnabod mewn 15 o 16 meysydd pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ôl canlyniadau Ymarfer Asesiad Ymchwil (RAE) 2008.

Prifysgol Bangor

Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoroldeb am safonau academaidd a phrofiad myfyrwyr.Gwneir ymchwil safon byd-eang ym Mangor,yn enwedig felly mewn Cyfrifeg ac Arianneg (wedi’u graddio fel y gorau am ymchwil yn y D.U.) a Pheirianneg Electronig (wedi’i raddio’n ail yn y D.U.).

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol ryngwladol wrth galon prifddinas Ewropeaidd fodern.Rhan o Grŵp Russell o brifysgolion;Grŵp o’r 24 prifysgolion gorau yn y D.U. sy wedi ymrwymo  i’r lefelau uchaf o ragoroldeb mewn addysgu ac ymchwil.Mae cymuned fyd-eang y Brifysgol,ei henw da a’i phartneriaethau wrth galon ei hunaniaeth gan ddenu y calibre uchaf o ymchwilwyr o bedwar ban byd.

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol fyd-eang sy’n buddsoddi’n barhaus yn nyfodol ei myfyrwyr.Mae ganddi record gref o ymchwil rhagorol rhyngwladol ac yn arwain y byd gyda arbenigedd ymchwil sy’n cyfuno gyda Strategaeth Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru a’r blaenoriaethau sector allweddol yn yr Adran Busnes ,Menter Technoleg a Gwyddoniaeth.

Prifysgol Glyndŵr

Nodwedd ddiffiniol o ymchwil Prifysgol Glyndŵr yw’r cyfraniad y mae’n ei wneud i lwyddiant mudiadau y sector fusnes,gyhoeddus a gwirfoddol.Mae ymchwil yn cyffwrdd ystod o weithgareddau o gydweithrediadau fwy lleol llai eu maint i brosiectau graddfa fawr,megis cynorthwyo i ddatblygu technolegau optegol blaengar i delesgop seryddol mwyaf y byd.

Prifysgol De Cymru

Mae Prifysgol De Cymru wedi esblygu o’r cyfuno diweddar o gyn-Brifysgolion Morgannwg a Chasnewydd gan greu Prifysgol gryfach,fwy o faint gyda’r gofod a’r cwmpas i’w hystyried yn un a all gystadlu gyda chystadleuwyr yn rhanbarthau metropolaidd mawr y D.U..Mae Gwobr Addysg Uwch y Guardian wedi cydnabod prosiect Sefydliad Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd (HHOVI) fel yr un mwyaf blaengar yn y D.U. o safbwynt lledu cyfranogaeth.Cydnabyddodd y Times Higher Awards ei chefnogaeth i fyrfyrwyr fel y gorau yn y D.U.

 

Prifysgol Abertawe

Sefydliad sy’n cael ei arwain gan ymchwil gydag enw rhagorol am ansawdd yr ymchwil a’r addysgu.Yn yr RAE diweddaraf, cyflawnodd Abertawe y tŵf mwyaf yng ngweithgaredd ymchwil arwain y byd ac ansawdd rhyngwladol yn fwy nag unrhyw brifysgol arall yn y D.U. Mae Cyfeiriadur Prifysgolion Da y Times a’r Sunday Times 2014 yn dangos fod Prifysgol Abertawe wedi symud i fyny i’r 50 Prifysgol orau yn y D.U. Bydd Campws y Bae Newydd (Gwyddoniaeth ac Arloesedd) sydd fod i agor yn 2015,yn cyd-leoli yr Ysgol Beirianneg a’r Ysgol Reoli ochr yn ochr a chwmnïau amlgenedl gan gryfhau’r ymchwil sy’n arwain y byd ac yn gydweithrediadol yn rhyngwladol.

 

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae’r Brifysgol wedi ymrwymo ei hun i ymchwil sy’n cyfrannu at adnewdyddiad ac egni economaidd y rhanbarth ac mae’n datblygu enw da am weithio’n gydweithredol gyda busnes,diwydiant,llywodraeth a phartneriaid eraill.Cafodd ymchwil nifer o aelodau staff ei gydnabod fel un sy’n arwain y byd yn yr asesiaid cenedlaethol ansawdd ymchwil diweddaraf, yr RAE.