Dewch i gwrdd â thîm AUCB
Berwyn Davies
Pennaeth y Swyddfa
Ymunodd Berwyn ag AUCB yn fuan wedi sefydlu´r swyddfa yn 2006.’Roedd yn gweithio ar brosiectau Ewropeaidd gydag Opera Cenedlaethol Cymru cyn iddo weithio ym Mrwsel, a threuliodd gyfnod ym Mhrifysgol Maastricht yn yr Iseldiroedd lle enillodd radd feistr mewn Materion Cyhoeddus Ewropeaidd.Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth, mae Berwyn yn Bennaeth ar Swyddfa AUCB oddi ar 2010 ac yn gosod pwyslais arbennig ar gyfleoedd i brifysgolion Cymru mewn ymchwil iechyd a charbon isel yng nghyd-destun y sefydliadau Ewropeaidd.
Catherine Marston
Swyddog Datblygu Strategol
Ymunodd Catherine â AUCB yn ystod hydref 2017. Mae hi’n arwain meysydd ymwchil y bio-gwyddorau a diwydiant gwaithgynrchiol. Cyn ymuno â AUCB bu Catherine yn gweithio ar brosiect hunan-reolaeth prifysgolion ar y gyfer Cymdeithas Ewropeaidd Prifysgolion (European University Association) a’r Cyngor Prydeinig yn yr Unol Daleithiau. Fe dreuliodd hi deng mlynedd yn gweithio ar gyfer Prifysgolion DU (Universities UK) ar ystod eang o bolisiau addysg uwch. Graddiodd Catherine gyda BA a M. Phil o Brifysgol Caergrawnt.
Catrin Edwards
Stagiaire
Ymunodd Catrin â thîm AUCB ym mis Medi 2019. Graddiodd hi yn ddiweddar o Brifysgol Caerdydd â gradd yn y Gyfraith. Mae Catrin yn gweithio ar gyfathrebu bob-dydd y swyddfa ac yn paratoi digwyddiadau yn Nhŷ Cymru.