Sefydlwyd Addysg Uwch Cymru Brwsel (AUCB) er mwyn:
- Hybu buddiannau sector Addysg Uwch Cymru yn Ewrop
- Rhoi modd i’r sector chwarae rhan lawnach ym mlaenoriaethau Ewrop megis Strategaeth Lisbon a Phroses Bologna, a
- Hyrwyddo cysylltiadau cryfach rhwng Sefydliadau Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Ewrop, a Phartneriaid Rhanbarthol yn yr UE a’r tu hwnt.
"Mae Cymru’n wlad fach ddawnus ag enw da ledled y byd am ansawdd ei ffordd o fyw – sy’n deillio o’i chymunedau bywiog, ei hamgylchedd, ei chreadigrwydd addysgiadol a diwylliannol, a’i heconomi gref a seilir ar wybodaeth"
Saif prifysgolion wrth wraidd y weledigaeth i greu Ewrop Wybodus. Er mwyn gallu tyfu mae’r gymdeithas wybodus yn dibynnu ar gynhyrchu gwybodaeth newydd, a’i throsglwyddo drwy addysg a hyfforddiant, ei rhannu drwy dechnolegau gwybodaeth a chyfathrebu, a’i defnyddio mewn prosesau diwydiannol neu wasanaethau newydd.
Mae prifysgolion yn unigryw gan eu bod yn cymryd rhan ym mhob un o’r prosesau hyn o ganlyniad i’w rhan allweddol mewn sawl maes: ymchwil a manteisio ar ganlyniadau’r ymchwil, drwy gydweithredu â diwydiant a mentrau cysylltiedig; addysg a hyfforddiant, wrth hyfforddi ymchwilwyr a chynhyrchu gweithlu cryf i’r farchnad swydd; a datblygu rhanbarthol a lleol, lle y maent yn gwneud cyfraniad sylweddol.
Drwy ymgartrefu wrth galon Ewrop, mae WHEB yn awyddus i fagu cysylltiadau agosach ag ystod o gyfranddeiliaid eraill, gan hybu rhagoriaeth Cymru wrth anelu at amcanion Ewrop gyfan.
