Ynglyn ag AUCB

Lleolir swyddfa AUCB yn Nhŷ Cymru ar gylchfan Schuman wrth galon y sefydliadau Ewropeaidd ym Mrwsel. Mae Tŷ Cymru hefyd yn gartref i Swyddfa UE Llywodraeth Cymru yn ogystal  â swyddfeydd UE Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae AUCB yn cynrychioli holl brifysgolion Cymru ac mae’n anelu at hybu’r safon uchel o addysg uwch ac ymchwil sy’n bodoli yng Nghymru yn ogystal â chreu dolenni gyda hapddalwyr a sefydliadau eraill. Mae cael swyddfa ym Mrwsel yn caniatáu i brifysgolion Cymru gael mewnwelediad i waith beunyddiol ffurfio polisi ym Mrwsel yn ogystal ag i rwydwaith o bartneriaid posibl a chyfleoedd  cyllido. O ystyried i fuddiannau sector addysg uwch Cymru a´r ymchwil a gynhyrchir oddi ynddi fod wrth graidd holl waith AUCB, pwrpas amlwg y swyddfa yw i ymdrechu i sicrhau fod prifysgolion Cymru yn cael eu cynrychioli’n briodol yn yr UE.

Un o’r prif ffyrdd y mae AUCB yn gweithio yw drwy sefydlu cysylltiadau gyda swyddfeydd rhanbarthol eraill.  Mae AUCB yn aelod sylfaen o Rwydwaith Ymchwil ac Arloesedd Ardaloedd Ewropeaidd (ERRIN) sy’n cynnwys rhwydwaith o fwy na 100 rhanbarth yn yr UE ynghyd â’u swyddfeydd ym Mrwsel. Drwy gyd-weithio, gall swyddfeydd rhanbarthol gynorthwyo i adeiladu partneriaethau a allai  yn eu tro arwain at sefydlu consortia i dargedu galwadau cyllido penodol yn yr UE. Mae gan AUCB hefyd berthynas waith agos gyda’r ASEau Cymreig yn ogystal â pherthynas gyda swyddogion sy’n gweithio yn y Comisiwn Ewropeaidd a Chrynrychiolaeth Barhaol y Deyrnas Unedig i’r UE.

 

Cydweithio yn y Dyfodol

Mae prifysgolion Cymru yn parhau i fod ar agor i gydweithrediadau a phartneriaethau ymchwil ac addysg gyda phrifysgolion, sefydliadau ymchwil a busnesau Ewrop. Rydym yn gwerthfawrogi’r cydweithwyr a myfyrwyr o weddill yr UE sydd wedi dewis byw, gweithio ac astudio yn ein prifysgolion, ac sydd wedi gwneud cyfraniad mor bwysig i Gymru.

Mi fydd prifysgolion Cymru yn parhau i gymryd rhan yn Horizon 2020 ac Erasmus+ am weddill 2020 a tan ddiwedd prosiectau penodol. Am fwy o wybodaeth am y trefniadau yn ystod y cyfnod trosglwyddo, darllenwch y briff yma gan Universities UK.

Rydym yn gobeithio bydd y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ar ddyfodol ein perthynas yn arwain at gyfranogiad llawn gan holl brifysgolion y DU yn rhaglenni newydd Horizon Europe ac Erasmus.

Am fwy o wybodaeth am y Cytundeb Ymadael rhwng y DU a’r UE, mae’r linc yma’n ddefnyddiol.

Diolch am eich cyfeillgarwch ac edrychwn ymlaen at weithio gydach chi.

 

Rheolaeth a Chyllido

Cawn ein hariannu gan yr wyth prifysgol yng Nghymru yn ogystal â Chyngor Cyllido Addysg Uwch i Gymru (HEFCW) a Chofrestrfa Prifysgol Cymru. Cawn ein cefnogi hefyd gan gorfforaeth Prifysgolion Cymru a chyd-gysylltwn yn agos gyda nhw. Mae AUCB yn atebol i fwrdd o gynrychiolwyr hŷn o’r sector Addysg Uwch. (Aelodau Bwrdd AUCB)