Addysg Uwch yng Nghymru

 

Mae gan Gymru 8 prifysgol sef: Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol De Cymru (gan gynnwys y Coleg Cerdd a Drama Brehinol), Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â’r Brifysgol Agored a Phrifysgol Cymru. Mae tua 103,000 o fyfyrwyr is-raddedig a 24,000 ôl-raddedig yn awr wedi’u cofrestru yng Nghymru.

Mae’r sector Addysg Uwch yn hanfodol i ddyfodol Cymru fel gwlad ac iddi economi wybodaeth gystadleuol, gref. Mae’r sefydliadau Addysg Uwch mewn perthynas agos â diwydiant drwy rwydweithiau sy’n darparu ffynhonnell fawr iawn o arbenigedd i fusnesau Cymreig a rhyngwladol ac sy’n annog cydweithredu rhwng Mentrau Bach a Chanolig (SMEs) a Sefydliadau Addysg Uwch.

 

Rhagor o wybodaeth am brifysgolion yng Nghymru

 

 

Prifysgolion a'r Coronafeirws

Prifysgol Bangor

Mae Prifysgol Bangor yn monitro'r achosion o Coronafeirws (COVID-19) ac yn parhau i ofyn am gyngor oddi wrth awdurdodau'r DU. Rydym yn gwneud popeth posibl i hysbysu ein staff a'n myfyrwyr am y sefyllfa bresennol.

Rydym yn deall y bydd gan staff a myfyrwyr bryderon ynglŷn â'r sefyllfa bresennol mewn perthynas â Coronafeirws. Mae'r World Health Organisation wedi cynhyrchu cyflwyniad defnyddiol i'r firws: https://www.youtube.com/watch?v=mOV1aBVYKGA

 

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Iechyd a lles ein myfyrwyr a'n staff yw ein prin flaenoriaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Wrth i bandemig COVID-19 barhau i symud yn gyflym, rydym wedi cymryd camau yn unol â Chyngor y Llywodraeth i ddiogelu cymuned y brifysgol. Felly, byddwn yn cau ein campysau o 12 hanner dydd dydd Llun 23 Mawrth 2020.

Mae pob digwyddiad yn cael ei ganslo ac nid oes mynediad i'r cyhoedd i'n campysau. Yr unig eithriad i hyn fydd ar gais y GIG. Mae ein meithrinfa yn parhau i fod yn agored i ofalu am blant gweithwyr allweddol.

Rydym yn ddiolchgar i'n staff a'n myfyrwyr am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.

 

Prifysgol Aberystwyth

Os oes gennych bryderon am y feirws, rydym wedi llunio Cwestiynau Cyffredin ac arweiniad defnyddiol a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r dudalen.

Rydym hefyd wedi sefydlu llinell gymorth i ateb a mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu bryderon ychwanegol a allai fod gennych. Os na chaiff eich cwestiwn ei ateb yn y Cwestiynau Cyffredin, ebostiwch coronafeirws@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 62 2483.

 

Prifysgol Abertawe

Mae'r Brifysgol wedi stopio dysgu wyneb i wyneb, a byddem yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun Mawrth 23. Mae myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan eu coleg neu ysgol am beth fydd hyn yn ei olygu i'w rhaglen addysgu.

Yn dilyn cyfyngiadau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar 23 Mawrth, mae llyfrgelloedd y Brifysgol nawr wedi cau.

 

Prifysgol Caerdydd

Rydym yn cadw llygad ar y Coronafeirws wrth i'r sefyllfa ddatblygu. Sicrhau diogelwch a lles ein staff a'n myfyrwyr yw ein blaenoriaeth.

Rydymd yn cysylltu'n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chyrff eraill swyddogol y llywodraeth. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys y cyngor diweddaraf ar deithio ar gael gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE), y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad (FCO), Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn anffodus rydym wedi penderfynu canslo Diwrnodau Agored y dyfodol agos, ac wedi gohirio seremonïau graddio haf 2020.

 

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Rydym yn cymryd iechyd a lles ein dysgwy, staff a'n hymwelwyr o ddifri ac rydym yn parhau i fonitro achosion COVID-19 er mwyn i ni allu darparu gwybodaeth a chyngor cyfredol, a chynnig cymorth wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Rydym mewn cysylltiad â chydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn dilyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE) sy'n arwain ymateb y DU. Byddwn yn diweddaru'r cyngor ar y dudalen hon a'r cwestiynau cyffredin wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

Pryfysgol Met Caerdydd

Mae Grwp Cynlluno ac Ymateb COVID-19 y Birfysgol yn cadw ein hymagwedd tuag at sefyllfa COVID-19 (Coronafeirws) dan adolygiad agos. Mae ein penderfyniadau yn seiliedig ar bwysigrwydd diogelu iechyd a lles ein staff, myfyrwyr ac ymwelwyr, sef ein prif flaenoriaeth.

Er mwyn cefnogi'r ymgyrch genedlaethol i gyfyngu lledaeniad COVID-19, rydym wedi gwneud y penderfyniad i gyfyngu mynediad i'n pedwar campws Prifysgol ar ôl 16:00 ddydd Mawrth 24 Mawrth i 'Weithwyr Allweddol' a 'Myfyrwyr preswyl'.

 

Prifysgol De Cymru

Rydym yn gweithio gyda'n Llywodraethau, y cyrff arholi, a gweddill y sector addysg uwch er mwyn tawelu meddyliau myfyrwyr sydd gyda chynnig gan PDC y byddem yn cymryd safbwynt teg ac yn rhoi sicrwydd i'r rheiny sydd yn cychwyn gyda ni hwyrach eleni.

Mae ein safleoedd i gyd nawr ar gau i bawb heblaw am y 'Gweithwyr Hanfodol'. Rydym nawr yn gweithredu o bell fel Prifysgol, ac mae staff a myfyrwyr yn gweithio o adref.

Hyd at ddydd Gwener 27 Mawrth, dim ond pobl sydd gydag apwyntiad penodol i bigo offer hanfodol i fyny ar gyfer gweithio o bell fydd gyda mynediad i'n safleoedd.